Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher,
11 Tachwedd 2015
Amser: 09.17 -
12.17
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2.1 Trafododd y Pwyllgor effaith Bil Cymru drafft ar gymhwysedd deddfwriaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gyfrannu at ei waith craffu cyffredinol ar Fil Cymru drafft, ac i anfon copi o’r llythyr hwn at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Prif Weinidog a’r Llywydd.
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Cytunodd y Pwyllgor i drafod yr adroddiad drafft eto yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2015.
3.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(ii), pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn, a gynigiwyd gan Darren Millar AC gyda chefnogaeth Alun Davies AC, ac fe'i derbyniwyd gan y Cadeirydd heb rybudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.44:
Bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gasgliadau ei drafodaeth Cyfnod 1 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).
Dyma ganlyniad y bleidlais:
O blaid |
Yn erbyn |
Ymatal |
Alun Davies Altaf Hussain Elin Jones Darren Millar Lindsay Whittle Kirsty Williams |
John Griffiths Lynne Neagle Gwyn Price David Rees |
0 |
6 |
4 |
0 |
Derbyniwyd y cynnig. |
4.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.
4.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.